DATGANIAD YSGRIFENEDIG
Teitl: Senedd Ieuenctid
Dyddiad: 2 Mawrth 2017
Gan: Elin Jones AC, y Llywydd, fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad
Mae Comisiwn y Cynulliad yn awyddus i bobl ifanc Cymru hawlio eu llais a chyfrannogi fel dinasyddion cyflawn yn nemocratiaeth Cymru gan helpu liwio ei ddyfodol. Mae’r Cynulliad eisoes ar flaen y gad o ran ymgysylltu â phobl ifanc, ac ar Hydref 19eg 2016 fe bleidleisodd y Cynulliad yn unfrydol i sefydlu senedd ieuenctid. Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer y datblygiad cyffrous hwn bellach yn mynd rhagddo.
Bydd y fenter yn adeiladu ar y gwaith da a wnaed gan dîm Addysg ac Ymgysylltu Pobl Ifanc y Cynulliad, sydd â pherthynas hirsefydlog â phlant a phobl ifanc Cymru. Bob blwyddyn, mae dros 20,000 o bobl ifanc yn ymweld â Siambr Hywel—adnodd penodol y Cynulliad ar gyfer pobl ifanc—neu'n cwrdd ag Aelodau'r Cynulliad a'n swyddogion.
Ers hynny, mae'r Cynulliad wedi sefydlu rhaglen gwaith ieuenctid sydd wedi cynnwys dros 200 o grwpiau ieuenctid ac ystod eang o safbwyntiau yng ngwaith y Cynulliad, gan gynnwys y rheini sy'n aml heb lais megis plant mewn gofal, plant anabl a gofalwyr ifanc.
Mae'r Comisiwn a minnau am sicrhau bod y gwaith o ddatblygu Senedd Ieuenctid newydd yn cael ei lywio yn bennaf gan blant a phobl ifanc Cymru, a bod y fenter hefyd yn cael ei chefnogi gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithredu yn y sector.
Felly, roeddwn yn falch o gael copi o adroddiad ymgynghori Ymgyrch dros Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru (CYPAW), sef Ymgynnull am Gymru: Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyhoeddus i Gynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru ar 8 Chwefror. Mae’r Ymgyrch dros Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod y mater hwn yn parhau i fod ar agenda'r Cynulliad.
Cafodd argymhellion yr adroddiad eu trafod gan Grŵp Llywio'r Senedd Ieuenctid, sydd newydd gael ei sefydlu gan y Comisiwn ac a gynhaliodd ei gyfarfod cyntaf ar 13 Chwefror. Mae'r grŵp llywio, y bûm yn ei gadeirio, yn cynnwys cynrychiolwyr o'r cyrff cenedlaethol a ganlyn:
Comisiynydd Plant Cymru; Ieuenctid Cymru; yr Urdd; Plant yng Nghymru; Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru; Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc; Cyngor Cymreig Gwasanaethau Ieuenctid Cymru (CWVYS); Sgowtiaid Cymru; Geidiaid Cymru; Ffermwyr Ifanc Cymru; Cadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru; CYPAW; a Laura Elliott, cynrychiolydd y Cynulliad yn 8fed Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yng Nghanada.
Rwyf wrth fy modd bod ystod mor eang o sefydliadau â chymaint o brofiad wedi cytuno i weithio gyda ni ar y prosiect hwn. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein model ar gyfer y Senedd Ieuenctid dros yr wythnosau nesaf, ac rydym yn bwriadu lansio ymgynghoriad cyhoeddus llawn gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru yn dilyn toriad y Pasg.
Bydd cyfarfod nesaf y Grŵp Llywio yn cael ei gynnal ar 13 Mawrth. Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr ieuenctid o'r sefydliadau partner a nodir uchod. Bydd y Grŵp Llywio yn rhoi cyngor ar themâu, fformat a dulliau gweithredu'r ymgynghoriad.